Lliniariadu newid yn yr hinsawdd

Available Translations:

Crynodeb o ganlyniadau Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (RhMaGG) yn ôl canlyniadau Unigol Glastir

Mae ystod eang o ganlyniadau ar gael yn awr o prosiect Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (RhMaGG). Mae'r rhain yn darparu tystiolaeth o newidiadau parhaus i Adnoddau Naturiol Cymru. Cytunwyd ar is-set o ganlyniadau gyda Llywodraeth Cymru a Grŵp Cynghori RhMaGG fel dangosyddion lefel uchel ar gyfer 6 Canlyniad Cynllun Glastir ac fe'u cyflwynir yma. Y chwe chanlyniad yw:

  • Gwrthsefyll newid hinsawdd
  • Gwella ansawdd dŵr a rheoli adnoddau dŵr
  • Gwella ansawdd a rheolaeth pridd
  • Cynnal a gwella bioamrywiaeth
  • Rheoli tirweddau ac amgylchedd hanesyddol a gwella mynediad i'r cyhoedd i gefn gwlad
  • Creu coetir a'i rheoli

Mae gwaith RhMGG wedi cynnwys: dros amser, cynnal arolwg maes cenedlaethol o 300 o sgwariau 1km gyda'u hanner yn dir a oedd yn rhan o'r cynllun a'r hanner arall y tu allan i'r cynllun; dadansoddiadau newydd o ddata hirdymor o raglenni monitro eraill; datblygu dangosyddion newydd; modelu er mwyn edrych ar ganlyniadau posibl yn y dyfodol; cynnal arolygon i asesu'r manteision economaidd-gymdeithasol ehangach; a manteisio ar dechnolegau newydd a datblygu'r rheini.

Mae'r dangosyddion hyn wedi'u cynnwys yn yr adrannau sy'n rhoi'r Prif Ganlyniadau isod hon er mwyn rhoi crynodeb bras o gasgliadau arwyddocaol RhMGG, naill ai ar ffurf 'canlyniadau cadarnhaol' neu 'feysydd sy'n achosi pryder neu sy'n galw am gamau pellach'.

Y Prif Ganlyniadau: Effeithiau Glastir

Roedd RhMGG yn gyfrifol am roi'r wybodaeth sylfaenol, gychwynnol er mwyn asesu effeithiau Glastir yn y dyfodol. Bydd arolygon maes yn y dyfodol yn rhoi'r brif dystiolaeth ar gyfer y newid gwirioneddol mewn perthynas â'r chwe chanlyniad gwreiddiol a fwriadwyd. Er mwyn cael gwybodaeth gynnar ynghylch yr effeithiau tebygol ar y chwe chanlyniad gwreiddiol a fwriadwyd drwy Glastir yn y dyfodol, defnyddiwyd set o fodelau a dulliau cyfrifyddu er mwyn rhagamcanu'r effeithiau tebygol ar ôl ymyrryd mewn dulliau rheoli, a hynny yn achos pridd, dŵr, bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd a choetiroedd.

Mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Canlyniadau Cadarnhaol: Effeithiau Glastir

  • Gostyngiad cyfartalog o 4.9% yn yr allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer pob hectar mewn 15 o ffermydd a oedd yn cael Grantiau Effeithiolrwydd Glastir, ar ôl asesu olion traed carbon manwl sawl gwaith gan ddefnyddio dull cyfrifo ôl troed carbon Bangor.

Meysydd sy'n achosi pryder neu sy'n galw am gamau pellach: Effeithiau Glastir

  • Mae gwaith modelu gan ddefnyddio Farmscoper yn awgrymu y bydd effaith cytundebau Glastir ar gyfer allyriadau methan ac ocsid nitrus yn arwain at ostyngiadau o 1.4% ac 1.8% yn y drefn honno ar gyfer ffermydd Glastir, sy'n golygu 0.6% a 0.8% ar gyfer Cymru gyfan. Ym mlwyddyn 1 RhMGG, roedd amcangyfrifon y gwaith modelu ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr yn 8-10%, a'r rheini wedi'u seilio ar amcangyfrifon mwy uchelgeisiol o'r potensial i newid defnydd tir a gostyngiad yn nifer anifeiliaid a'r defnydd o wrtaith.
  • Mae'r cynnydd o ddim ond 2.5 tunnell bob blwyddyn (0.1%) mewn dal a storio carbon ychwanegol mewn llystyfiant a'r 1m uchaf mewn pridd - o ganlyniad i'r holl gamau a gymerir o dan Glastir sy'n ymwneud â choetiroedd - wedi'i gyfrifo gan ddefnyddio model LUCI. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith mai eithaf prin yw'r rheini sy'n manteisio ar grantiau Glastir ar gyfer coetiroedd.

Casgliadau manwl: Effeithiau Glastir

Am wybodaeth fwy manwl ynghylch data a chasgliadau sy'n berthnasol i Efeithiau Glastir, gallwch lawr lwytho crynodeb gweithredol RhaMGG, neu adroddiad terfynol RhaMGG ar y dudalen Adnoddau.

Y Prif Ganlyniadau: Tueddiadau Cenedlaethol

Mae arolwg maes 'Cymru Ehangach' RhMGG, sy'n cael ei gynnal dros amser, yn rhoi'r boblogaeth reoli ar gyfer asesu newidiadau sy'n deillio o Glastir yn y dyfodol. Un o fanteision y dull strwythuredig o samplo cefn gwlad a ddefnyddir yn arolwg Cymru Ehangach yw bod y boblogaeth reoli hon hefyd yn rhoi asesiad diduedd cenedlaethol o stoc a chyflwr cynefinoedd a rhywogaethau cyffredin, gan gynnwys coetiroedd, pridd, nentydd bychan a phyllau dŵr. Gellir creu cysylltiad rhwng canlyniadau RhMGG a thueddiadau yn y gorffennol, gan roi cyd-destun i'r hyn a ganfyddir.

Mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Canlyniadau Cadarnhaol: Tueddiadau Cenedlaethol

  • Dim ar hyn o bryd. Mae data sylfaenol ar gael er mwyn asesu effeithiau Glastir yn y dyfodol.

Meysydd sy'n achosi pryder neu sy'n galw am gamau pellach: Tueddiadau Cenedlaethol

  • Bu cynnydd diweddar mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr o'r Rhestr Amaethyddiaeth a'r Rhestr Nwyon Tŷ Gwydr Defnydd Tir, Newid Defnydd Tir a Choedwigaeth (LULUCF). Mae'r gostyngiad o 14% mewn allyriadau amaethyddol rhwng 1990 a 2014 yn sgil gostyngiad o 42% yn y defnydd o wrtaith wedi'i wyrdroi yn gynnydd o 4% rhwng 2013 a 2014, a hynny'n sgil cynnydd yn y defnydd o wrtaith nitrogen a chynnydd yn niferoedd gwartheg godro a defaid. Mae'r gostyngiad yn nalfa nwyon tŷ gwydr coetiroedd yn sgil y ffaith bod yr adnodd presennol yn heneiddio a phrinder plannu o'r newydd.
  • Roedd lefel amrywio uchel o +/- 260% yn ôl troed carbon ŵyn sydd i'w lladd, sy'n adlewyrchiad o'r amrywiaeth mawr yn ansawdd y tir a'r potensial i wella drwy gamau rheoli.
  • Ar sail map 'unedig' newydd o fawndiroedd yng Nghymru, sef map a ddatblygwyd fel rhan o RhMGG, amcangyfrifir bod pridd mawn yn gorchuddio dros 90,000 ha yng Nghymru (4.3% o gyfanswm arwynebedd y tir), gyda 75% o hwn mewn ucheldiroedd a 25% mewn iseldiroedd. Drwyddi draw, credir bod un neu ragor o weithgareddau sy'n defnyddio tir wedi effeithio ar tua thri chwarter ardal pridd mawn Cymru, gan gynnwys draenio, gorbori, trosi'n laswelltir a choedwigo. O'r arwynebedd hwn, dim ond 30% sydd mewn cyflwr da, gyda 25% wedi'i addasu'n laswelltir a 10% yn goetir. O ganlyniad i'r gweithgareddau hyn, tybir bod pridd mawn Cymru ar hyn o bryd yn cynhyrchu allyriadau 'anthropogenig' o tua 400 kt sy'n cyfateb i CO2 bob blwyddyn (yn cyfateb i tua 7% o'r holl allyriadau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth yng Nghymru). Mae hyn yn cymharu â'r amcangyfrif o 140 kt sy'n cyfateb i CO2 bob blwyddyn ar gyfer y cyflwr 'cyfeirio' naturiol (h.y. pe bai'r holl arwynebedd mawn sydd wedi'i fapio ar hyn o bryd yn gors neu'n ffen naturiol).

Casgliadau manwl: Tueddiadau Cenedlaethol

Cewch fwy o wybodaeth am dueddiadau cenedlaethol o fewn ddangosyddion lefel uchel RhMGG yn y ffigyrau a thablau isod. Am wybodaeth fwy manwl ynghylch data a chasgliadau sy'n berthnasol i Dueddiadau Cenedlaethol, gallwch lawr lwytho crynodeb gweithredol RhaMGG, neu adroddiad terfynol RhaMGG ar y dudalen Adnoddau.

FIGURE-GMEP-DPCCM-OUTCOME-A-3

 

FIGURE-GMEP-DPCCM-OUTCOME-B-1

 

TABLE-GMEP-DPCCM-OUTCOME-A-3

 

TABLE-GMEP-DPCCM-OUTCOME-B-1