Amdan RhMGG

Available Translations:

About GMEP

Amdan RhMGG

Beth yw diben Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir?

Glastir yw'r prif gynllun a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i dalu am nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol, ac mae Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir yn gwerthuso llwyddiant y cynllun. Mae comisiynu'r rhaglen fonitro ochr yn ochr â lansio cynllun Glastir yn darparu adborth cyflym ac mae'n golygu y gellir addasu'r taliadau i gynyddu effeithiolrwydd. Mae cynllun Glastir yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru (drwy'r Cynllun Datblygu Gwledig) a'r Undeb Ewropeaidd (UE), a chyflwynir adroddiad ar ganlyniadau Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (RhMaGG) iddynt yn flynyddol. Bydd RhMaGG hefyd yn cefnogi amrywiaeth eang o ofynion adrodd cenedlaethol a rhyngwladol eraill ar gyfer bioamrywiaeth, allyriadau nwyon tŷ gwydr, ansawdd pridd ac ansawdd dŵr.

Beth mae'n ei wneud?

Mae'r rhaglen yn casglu tystiolaeth o bob un o chwe chanlyniad bwriadedig cynllun Glastir; lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd, gwella ansawdd pridd a dŵr, atal y dirywiad i fioamrywiaeth, dulliau gwell ar gyfer rheoli coetiroedd a mynediad gwell i dirwedd Cymru a chyflwr nodweddion hanesyddol. Cyflawnir y rhan fwyaf o'r rhain drwy arolwg maes o 300 o sgwariau 1 cilometr o faint ar hyd a lled Cymru, gyda hanner o'r rhain yn canolbwyntio ar ardaloedd sydd wedi'u blaenoriaethu ar gyfer taliadau uwch. Mae'r sgwariau 1 cilometr yn cael eu dewis ar hap o 26 o ddosbarthiadau tir, sy'n sicrhau bod amrywiaeth dda o dirwedd Cymru yn cael ei gynnwys. Bydd y sgwariau'n cael eu harolygu dros gyfnod o bedair blynedd ac yna byddant yn cael eu harolygu eto ymhen pedair blynedd, sy'n golygu y bydd tystiolaeth o newidiadau'n cael ei chasglu a bydd effeithiau tywydd eithafol un flwyddyn unigol yn lleihau. Bydd yr ardal o 'dir Glastir' o fewn pob sgwâr sy'n cael ei harolygu yn amrywio, a bydd hyn yn ystyriaeth yn ystod y gwaith dadansoddi. Mae data o raglenni monitro arbenigol parhaus, sy'n cael eu casglu'n bennaf gan y Ganolfan Cofnodion Biolegol, hefyd yn cael eu cynnwys yn y dadansoddiad pan fydd hynny'n bosibl, er mwyn gwneud y defnydd gorau o'r holl weithgarwch monitro parhaus sy'n cael ei gynnal. Defnyddir modelau i ragweld canlyniadau yn y dyfodol, er mwyn gallu gwneud addasiadau i gyfateb â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a sicrhau effaith fwyaf y cynllun.

Beth sy'n arlesol?

Mae'r cyfuniad o ddata a dulliau modelu yn wahanol ynddo'i hun ond hefyd, rydym yn defnyddio offer moleciwlaidd newydd i archwilio effeithiau Glastir ar organebau priddoedd a thechnolegau lloeren i fonitro cyflwr mawndiroedd, niferoedd y nodweddion prennaidd bychain a chyflwr cynefinoedd yng Nghymru. Mae dulliau newydd o asesu ansawdd gweledol tirweddau a diffinio Tir Ffermio sydd o Werth Mawr i Natur yn cael eu datblygu a bod systemau mesur symudol ar gyfer cofnodi newidiadau mewn nwyon tŷ gwydr yn cael eu defnyddio i fesur allyriadau carbon deuocsid, ocsid nitraidd a methan o laswelltiroedd ar hyd a lled Cymru.

Beth sydd ar gael ar y porth data RhMaGG?

Mae gwaith dwy flynedd gyntaf RhMaGG ar gael ar hyn o bryd ar y porth data hwn. Mae'r data hyn yn darparu tystiolaeth werthfawr ar gyfer newidiadau parhaus ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn canolbwyntio ar rai o'r dangosyddion allweddol y cytunwyd arnynt gyda Grŵp Cynghori RhMaGG. Ar gyfer rhai dangosyddion allweddol, gellir cyfuno'r data hyn gyda ffynonellau data eraill i ddarparu cofnod o dueddiadau hirdymor gan ystod eang o ffactorau yn cynnwys ysgogwyr economaidd, llygredd aer, newid yn yr hinsawdd a chynlluniau amaeth-amgylcheddol y gorffennol. Mae cylch 4 blynedd gyntaf gwaith monitro RhMaGG yn casglu data gwaelodlin, ni ellir darparu tystiolaeth o effeithiau rhaglen Glastir ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae ein gwaith modelu ar gael drwy'r porth ac mae'n dangos awgrym o faint y newidiadau y gallwn eu disgwyl a nodi lle mae cyfaddawd a chydfanteision yn fwyaf tebygol o ddigwydd. Rydym hefyd wedi cynnal dadansoddiad o'r math o dir a chyflwr y tir yn y cynllun a thir nad yw yn y cynllun, sy'n darparu gwybodaeth i ni ar leoliadau tir a'r math o dir sy'n derbyn taliadau Glastir. Bydd y porth data hwn yn cael ei ddiweddaru.n flynyddol wrth i ddata o'r arolwg maes blynyddol ddod ar gael.

Pwy ym tîm RhMaGG?

Mae RhMaGG yn cael ei harwain gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, canolfan ymchwil annibynnol sy'n rhan o'r Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol. Mae consortiwm y rhaglen yn cynnwys arbenigwyr o ganolfannau ymchwil cyhoeddus, prifysgolion, cyrff gwirfoddol ac ymgynghoriaethau ac maent yn cynnwys: ADAS, APEM, Arolwg Daearegol Prydain, Bowburn Consultants, British Trust for Ornithology, Butterfly Conservation, ECORYS, Edwards Consultants, Prifysgol Bangor, Prifysgol Swydd Stafford a Phrifysgol Victoria Wellington, Seland Newydd.

Pwy yw'r Grŵp Ymgynghorol RhMGG?

Mae Grŵp Ymgynghorol RhMGG yn cynnwys unigolion gydag ystod eang o brofiad ac amryw o ddiddordebau perthnasol i Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir. Mae'r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas y Tirfeddianwyr, CADW, Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, Confor, Undeb Amaethwyr Cymru a Cym Frenhinol er Gwarchod Adar.

Swyddogaeth y Grŵp Ymgynghorol yw:

  • Cynghori bwrdd prosiect RhMGG ar gyfeiriad rhaglen a sut i sicrhau'r effaith fwyaf posibl
  • Cynghori ynglyn â chyflawni strategaeth gyfathrebu RhMGG
  • Cynghori a chefnogaeth ar ddatblygu gweithgareddau cydweithrediadol gan gynnwys dod i'r amlwg a chyfleoedd i'r dyfodol, a chysylltiadau gyda mentrau a mudiadau perthnasol eraill
  • Canfod ffynonellau data a gwybodaeth ychwanegol i wella'r anghenion adrodd Fframwaith Gyffredin Monitro a Gwerthuso
  • Nid yw'r Grŵp yn ymwneud â threfn lywodraethol y rhaglen ac ni fydd yn gwneud penderfyniadau. Cyfrifoldeb y bwrdd prosiect RhMGG yw hyn
  • Ni fydd aelodau'r Grŵp yn gweithredu fel cynrychiolwyr na llefarwyr y rhaglen. Swyddogaeth y tîm prosiect RhMGG a staff LLC yw hon

Sut gallai gysylltu â RhMGG?

Bronwen Williams 
Rheolwr Prosiect RhMGG 
Canolfan Ecoleg a Hydroleg 
Canolfan yr Amgylchedd Cymru 
Ffordd Deiniol 
BANGOR 
Gwynedd 
LL57 2UW 

   gmep@ceh.ac.uk
   +44 (0)1248 374 500