Bioamrywiaeth

Available Translations:

Crynodeb o ganlyniadau Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (RhMaGG) yn ôl canlyniadau Unigol Glastir

Mae ystod eang o ganlyniadau ar gael yn awr o prosiect Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (RhMaGG). Mae'r rhain yn darparu tystiolaeth o newidiadau parhaus i Adnoddau Naturiol Cymru. Cytunwyd ar is-set o ganlyniadau gyda Llywodraeth Cymru a Grŵp Cynghori RhMaGG fel dangosyddion lefel uchel ar gyfer 6 Canlyniad Cynllun Glastir ac fe'u cyflwynir yma. Y chwe chanlyniad yw:

  • Gwrthsefyll newid hinsawdd
  • Gwella ansawdd dŵr a rheoli adnoddau dŵr
  • Gwella ansawdd a rheolaeth pridd
  • Cynnal a gwella bioamrywiaeth
  • Rheoli tirweddau ac amgylchedd hanesyddol a gwella mynediad i'r cyhoedd i gefn gwlad
  • Creu coetir a'i rheoli

Mae gwaith RhMGG wedi cynnwys: dros amser, cynnal arolwg maes cenedlaethol o 300 o sgwariau 1km gyda'u hanner yn dir a oedd yn rhan o'r cynllun a'r hanner arall y tu allan i'r cynllun; dadansoddiadau newydd o ddata hirdymor o raglenni monitro eraill; datblygu dangosyddion newydd; modelu er mwyn edrych ar ganlyniadau posibl yn y dyfodol; cynnal arolygon i asesu'r manteision economaidd-gymdeithasol ehangach; a manteisio ar dechnolegau newydd a datblygu'r rheini.

Mae'r dangosyddion hyn wedi'u cynnwys yn yr adrannau sy'n rhoi'r Prif Ganlyniadau isod hon er mwyn rhoi crynodeb bras o gasgliadau arwyddocaol RhMGG, naill ai ar ffurf 'canlyniadau cadarnhaol' neu 'feysydd sy'n achosi pryder neu sy'n galw am gamau pellach'.

Y Prif Ganlyniadau: Effeithiau Glastir

Roedd RhMGG yn gyfrifol am roi'r wybodaeth sylfaenol, gychwynnol er mwyn asesu effeithiau Glastir yn y dyfodol. Bydd arolygon maes yn y dyfodol yn rhoi'r brif dystiolaeth ar gyfer y newid gwirioneddol mewn perthynas â'r chwe chanlyniad gwreiddiol a fwriadwyd. Er mwyn cael gwybodaeth gynnar ynghylch yr effeithiau tebygol ar y chwe chanlyniad gwreiddiol a fwriadwyd drwy Glastir yn y dyfodol, defnyddiwyd set o fodelau a dulliau cyfrifyddu er mwyn rhagamcanu'r effeithiau tebygol ar ôl ymyrryd mewn dulliau rheoli, a hynny yn achos pridd, dŵr, bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd a choetiroedd.

Cynnal a gwella bioamrywiaeth

Canlyniadau Cadarnhaol: Effeithiau Glastir

  • Mae canlyniadau gwaith modelu RhMGG sy'n dangos y canlyniadau tebygol i fioamrywiaeth yn awgrymu bod y camau yr edrychwyd arnynt sy'n cael eu cymryd drwy Glastir yn debygol o ddylanwadu ar natur y gwelliannau a wneir i gyflwr cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau.

Meysydd sy'n achosi pryder neu sy'n galw am gamau pellach: Effeithiau Glastir

  • Mae gwaith modelu gan ddefnyddio MultiMOVE yn dangos oedi o 10 i 23 mlynedd er mwyn i gyflwr pridd ac uchder y canopi fod yn addas ar gyfer 21 o rywogaethau cyffredin a rhai rhywogaethau prin sy'n gysylltiedig â'r cynefinoedd y mae ymyrraeth drwy Glastir yn eu targedu. Mae hyn yn pwysleisio bod angen cysondeb ac amynedd wrth barhau i ymyrryd os yw'r manteision i'w gwireddu.

Casgliadau manwl: Effeithiau Glastir

Am wybodaeth fwy manwl ynghylch data a chasgliadau sy'n berthnasol i Efeithiau Glastir, gallwch lawr lwytho crynodeb gweithredol RhaMGG, neu adroddiad terfynol RhaMGG ar y dudalen Adnoddau.

Y Prif Ganlyniadau: Tueddiadau Cenedlaethol

Mae arolwg maes 'Cymru Ehangach' RhMGG, sy'n cael ei gynnal dros amser, yn rhoi'r boblogaeth reoli ar gyfer asesu newidiadau sy'n deillio o Glastir yn y dyfodol. Un o fanteision y dull strwythuredig o samplo cefn gwlad a ddefnyddir yn arolwg Cymru Ehangach yw bod y boblogaeth reoli hon hefyd yn rhoi asesiad diduedd cenedlaethol o stoc a chyflwr cynefinoedd a rhywogaethau cyffredin, gan gynnwys coetiroedd, pridd, nentydd bychan a phyllau dŵr. Gellir creu cysylltiad rhwng canlyniadau RhMGG a thueddiadau yn y gorffennol, gan roi cyd-destun i'r hyn a ganfyddir.

Cynnal a gwella bioamrywiaeth

Canlyniadau Cadarnhaol: Tueddiadau Cenedlaethol

  • O ran bioamrywiaeth, mae cyflwr y tir yn ôl dangosyddion planhigion sy'n dynodi cyflwr da naill ai'n sefydlog neu'n gwella ar gyfer tir âr, tir wedi'i wella, tir cynefinoedd a choetiroedd llydanddail.
  • Mae maint cynefinoedd a choetiroedd wedi cynyddu dros y 30 mlynedd ddiwethaf.
  • Mae cyflwr gorgorsydd yn gwella fel y mae glaswellt y gweunydd a phorfeydd brwyn - dau gynefin sy'n flaenoriaeth. Mae'r cynefinoedd hyn wedi cael eu targedu er mwyn gwella dros nifer o flynyddoedd ac mae nifer o gamau wedi'u cymryd er mwyn helpu i'w hadfer. Mae angen edrych yn fanylach ar bwysigrwydd cymharol arferion adfer, hinsawdd llygredd sy'n gwella ac/neu newidiadau mewn glaw.
  • Mae'r dadansoddiad cychwynnol yn awgrymu cynnydd diweddar ym maint gorgorsydd a chynefinoedd mynyddig.
  • Mae dangosydd cyfansawdd o ddata am rywogaethau o'r Cynllun Monitro Gloÿnnod Byw yn dynodi bod grwpiau arbenigol o loÿnnod wedi sefydlogi yn ddiweddar ar ôl dirywio am sawl blwyddyn.
  • Mae data Arolwg Adar Magu'r BTO/JNCC/RSPB yn dynodi cynnydd ym mhoblogaethau adar magu mewn coetiroedd ac ucheldiroedd, ac amrywiaeth sefydlog cyffredinol ymysg adar dros y 15 mlynedd ddiwethaf. Mae data'r ddwy flynedd ddiwethaf hefyd yn awgrymu y gall poblogaethau adar yn yr iseldiroedd fod yn cynyddu ar ôl 15 mlynedd o ddirywiad.
  • Mae metrig newydd ar gyfer rhywogaethau adar sy'n flaenoriaeth yn dynodi bod gan 65% boblogaethau sefydlog neu boblogaethau sy'n cynyddu, heb unrhyw duedd gyson dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.

Meysydd sy'n achosi pryder neu sy'n galw am gamau pellach: Tueddiadau Cenedlaethol

  • Dirywiad diweddar ym maint rhosydd corlwyni.
  • Mae data Arolwg Adar Magu'r BTO/JNCC/RSPB yn dangos bod y dirywiad a welwyd dros 20 mlynedd ym mhoblogaethau adar yn yr iseldiroedd yn parhau.
  • Mae dadansoddiadau newydd o ddata Arolwg Adar Magu'r BTO/JNCC/RSPB ar gyfer RhMGG er mwyn creu mynegai o adar sy'n flaenoriaeth yn awgrymu bod 35% o rywogaethau adar sy'n flaenoriaeth yn dal i wynebu risg, wrth i'r poblogaethau ddirywio.
  • Mae dadansoddiadau newydd gan y Ganolfan Cofnodion Biolegol o dueddiadau ymhlith rhywogaethau sydd heb eu hastudio'n ddigonol yn dangos 10 grŵp tacsonomegol sydd â thueddiadau net negyddol o ran newid, gyda'r 8 grŵp tacsonomegol arall yn dangos newid net cadarnhaol yn y cyfnod 1990-2000. Casglwyd y data wrth i 16 o gymdeithasau a chynlluniau cofnodi achub ar y cyfle i wneud cofnodion biolegol1.

Casgliadau manwl: Tueddiadau Cenedlaethol

Cewch fwy o wybodaeth am dueddiadau cenedlaethol o fewn ddangosyddion lefel uchel RhMGG yn y ffigyrau a thablau isod. Am wybodaeth fwy manwl ynghylch data a chasgliadau sy'n berthnasol i Dueddiadau Cenedlaethol, gallwch lawr lwytho crynodeb gweithredol RhaMGG, neu adroddiad terfynol RhaMGG ar y dudalen Adnoddau.

/FIGURE-GMEP-BD-OUTCOME-A-3

 

FIGURE-GMEP-BD-OUTCOME-B-3

 

FIGURE-GMEP-BD-OUTCOME-C-1

 

FIGURE-GMEP-BD-OUTCOME-D-1

 

FIGURE-GMEP-BD-OUTCOME-E-1

 

FIGURE-GMEP-BD-OUTCOME-G-1

 

TABLE-GMEP-BD-OUTCOME-A-3

 

TABLE-GMEP-BD-OUTCOME-B-3

 

TABLE-GMEP-BD-OUTCOME-C-3

 

TABLE-GMEP-BD-OUTCOME-D-2

 

TABLE-GMEP-BD-OUTCOME-E-1