Rheoli Adnoddau Naturiol

Mae tîm Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (RhMGG) wedi bod yn ymwneud â'r gwaithh o drosi data a gynhyrchwyd gan y prosiect RhMGG i fetrigau, mapiau ac offer ymarferol. Gall Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid ddefnyddio'r rhain wrth iddynt ddatblygu polisïau a mentrau newydd i ddarparu dull mwy integredig o reoli ein hadnoddau naturiol. Dyma un o brif uchelgeisiau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Rydym yn disgrifio'r rhain isod o dan y penawdau canlynol:

  • Cydnerthedd
  • Cyfrifon Cyfalaf naturiol
  • Defnyddio modelu i edrych i'r dyfodol
  • Cyflenwi Gwasanaethau Ecosystem

Cydnerthedd

Mae RhMaGG wedi darparu data sy'n cwmpasu pob un o bedair nodwedd yr ecosystem (rhychwant, cyflwr, amrywiaeth a chysylltedd yr ystyrir eu bod yn helpu ecosystemau i allu gwrthsefyll pwysau fel newid yn yr hinsawdd yn well. Mae cynyddu cydnerthedd ein hecosystemau yn un o brif nodau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Rydym wedi ymchwilio sut i gyfuno RhMGG gyda data eraill i helpu i olrhain gwelliannau mewn cydnerthedd o lefel leol i lefel genedlaethol.

Cyfrifon Cyfalaf Naturiol

Mae Cymru wedi cael ei defnyddio fel astudiaeth achos i helpu i ddrafftio llawlyfr cam-wrth-gam i helpu llywodraethau i greu Cyfrifon Rhywogaethau Cenedlaethol yn dilyn sefydlu'r System Cyfrifyddu Amgylcheddol-Economaidd a gaiff ei derbyn yn genedlaethol. Roedd aelodau'r tîm RhMGG yn gyfrifol am ddrafftio'r astudiaeth achos hon gan ddefnyddio data RhMGG yn helaeth. Arweinir y gwaith hwn gan Raglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig - Canolfan Monitro Cadwraeth y Byd (UNEP-WCMC), ac mae'r prosiect yn rhan o ddatblygu Cyfrifyddu Cyfalaf Naturiol sy'n cael ei gydgysylltu gan Raglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig - Swyddfa Economeg Ecosystemau a Bioamrywiaeth (UNEP-TEEB), Is-adran Ystadegol y Cenhedloedd Unedig a'r Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol. Mae data priddoedd RhMGG hefyd yn cael eu defnyddio i ymchwilio i ddulliau o ddatblygu Cyfrifon Priddoedd Cenedlaethol.

Newidiadau o fewn rheolaeth fferm

Mae gofyn i RhMGG hefyd gyfrannu at adrodd ynghylch tueddiadau hirdymor yn iechyd yr ecosystem, a hynny er mwyn helpu i ateb amrywiaeth eang o ofynion adrodd cenedlaethol a rhyngwladol. Yn 2014, ychwanegodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ddau amcan arall y dylid adrodd arnynt:

  • Cynyddu lefel y buddsoddiad mewn camau i addasu i'r newid yn yr hinsawdd, gyda'r nod o sicrhau bod busnesau fferm a choedwigaeth, yn ogystal â'r economi ehangach yng Nghymru, yn gallu gwrthsefyll newid parhaus yn yr hinsawdd.
  • Defnyddio buddsoddiad mewn cynlluniau amaeth-amgylcheddol mewn ffordd sy'n annog canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol ond hefyd yn cyfrannu at ba mor broffidiol yw busnesau fferm a choedwigaeth ac at gynaliadwyedd yr economi wledig yn ehangach.

Er mwyn ymateb i'r amcanion hyn, cytunwyd y byddai RhMGG yn adrodd ynghylch tri chanlyniad ychwanegol:

  • Cynyddu nifer y ffermydd sy'n cymryd camau sy'n ymwneud â'r newid yn yr hinsawdd
  • Gwella arallgyfeirio ac effeithlonrwydd ar ffermydd
  • Gwella pa mor broffidiol yw busnesau a chynaliadwyedd yn ehangach


Canlyniadau Cadarnhaol: Effeithiau Glastir

Roedd RhMGG yn gyfrifol am roi'r wybodaeth sylfaenol, gychwynnol er mwyn asesu effeithiau Glastir yn y dyfodol. Bydd arolygon maes yn y dyfodol yn rhoi'r brif dystiolaeth ar gyfer y newid gwirioneddol mewn perthynas â'r chwe chanlyniad gwreiddiol a fwriadwyd. Mae'r effeithiau yn sgil Glastir a gyhoeddir fan hyn yn ymwneud â thystiolaeth o newidiadau yn ymddygiad ffermwyr ac arferion rheoli o ganlyniad i daliadau Glastir, a'r rheini'n deillio o'r Arolwg o Arferion Ffermwyr a gynhaliwyd fel rhan o RhMGG gyda 600 o ffermydd. Mae'r data'n rhoi gwybodaeth am y tri chanlyniad ychwanegol y gofynnodd Archwilydd Cyffredinol Cymru amdanynt yn 2014, sef canlyniadau'n ymwneud â chamau gan ffermwyr i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, a chamau'n ymwneud â gwella arallgyfeirio a pha mor effeithlon a phroffidiol yw ffermydd sy'n rhan o gynllun Glastir. Er mwyn cael gwybodaeth gynnar ynghylch yr effeithiau tebygol ar y chwe chanlyniad gwreiddiol a fwriadwyd drwy Glastir yn y dyfodol, defnyddiwyd set o fodelau a dulliau cyfrifyddu er mwyn rhagamcanu'r effeithiau tebygol ar ôl ymyrryd mewn dulliau rheoli, a hynny yn achos pridd, dŵr, bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd a choetiroedd.

Mae'r set ganlynol o'r ganlyniadau yn awgrymu bod ffermwyr sy'n rhan o'r cynllun Glastir yn cymryd cyfres o gamau cadarnhaol ac amrywiol mewn perthynas â'r newid yn yr hinsawdd, arallgyfeirio a bod yn fwy effeithlon a phroffidiol.


Cynyddu nifer y ffermydd sy'n cymryd camau sy'n ymwneud â'r newid yn yr hinsawdd

  • Cynnydd o 17% yn nifer y ffermydd sy'n rhan o'r cynllun (o'i gymharu â nifer y ffermydd y tu allan i'r cynllun) a ddywedodd eu bod yn cymryd camau sy'n ymwneud â'r newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys camau'n ymwneud â llifogydd, sychder, bioamrywiaeth, plâu ac afiechyd a straen gwres (o 37% i 54%).
  • Cynnydd o 15% yn y buddsoddiad gan ffermydd sy'n rhan o'r cynllun mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y fferm (o 21% i 36%) er ei bod yn bosibl bod hyn yn sgil natur y rheini sy'n cymryd rhan yn y cynllun yn hytrach nag yn un o effeithiau'r cynllun. Amcangyfrifir bod y capasiti presennol yn ddigon i wneud iawn am 1% o allyriadau nwyon tŷ gwydr net o amaethyddiaeth.


Gwella arallgyfeirio ac effeithlonrwydd ar ffermydd

  • Cynnydd o 4% yn nifer y ffermydd a ddywedodd eu bod yn cymryd camau i wella arallgyfeirio a pha mor effeithlon yw eu ffermydd o'i gymharu â ffermydd y tu allan i'r cynllun (o 16% i 20%). Roedd hyn yn cynnwys yr enghreifftiau penodol hyn:
    • +11% i wella effeithlonrwydd maethynnau
    • +17% i gynyddu arallgyfeirio yn y busnes (Glastir Uwch yn unig)
    • +8% i fynd i'r afael ag erydu pridd
    • +13% i atal dirywiad mewn bioamrywiaeth
  • Gostyngiadau o 9.5% ac 18% yn yr olion traed carbon cyfartalog, ar ffurf pob kg o bwysau byw ŵyn a llaeth ar y ffermydd a arolygwyd ac a oedd yn cael Grantiau Effeithiolrwydd Glastir, sy'n dangos mwy o effeithiolrwydd wrth gynhyrchu Mae'r canlyniadau hyn yn cynnwys allyriadau corfforedig sy'n deillio o gynhyrchu a chludo olion traed deunyddiau y mae'r fferm yn eu prynu a'u defnyddio (fel bwyd anifeiliaid, gwrtaith a llenni plastig, wrth ddefnyddio dull cyfrifo ôl troed carbon Bangor). Nid yw'r allyriadau corfforedig hyn wedi'u cynnwys yn y rhestrau cenedlaethol presennol ond mae'n bwysig eu hystyried os nad yw allyriadau i'w hallforio, gan gydymffurfio gan hynny â nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i greu Cymry sy'n gyfrifol yn fyd-eang.


Gwella pa mor broffidiol yw busnesau a chynaliadwyedd yn ehangach

  • Dywedodd 77% o ymatebwyr bod hyfywedd y fferm wedi gwella o ganlyniad i gael Grant Effeithiolrwydd Glastir, gyda 21% yn dweud na fu newid.
  • Roedd 90% o ymatebwyr yn cytuno bod Grantiau Effeithiolrwydd Glastir wedi eu hannog i fuddsoddi cyfalaf o'r newydd ac roedd 83% yn cytuno bod y gallu i ymgeisio am y grant wedi cynyddu maint y buddsoddiad a gynlluniwyd.


Meysydd sy'n achosi pryder neu sy'n galw am gamau pellach: Effeithiau Glastir

Efallai na fydd y manteision o ran llygredd gwasgaredig ac allyriadau nwyon tŷ gwydr ar raddfa genedlaethol mor fawr ag y bwriedir iddynt fod. Mae canlyniadau RhMGG yn awgrymu bod nifer o resymau dros hyn gan gynnwys: a) y ffaith bod taliadau ar gyfer parhau ag ymyriadau o gynlluniau blaenorol yn lleihau effaith ychwanegol Glastir; b) cymhlethdod y cynllun a rhwystrau i fabwysiadu (e.e. grantiau coetiroedd); ac c) y ffaith nad yw camau sydd i raddau wedi'u gwasgaru bob amser yn targedu'r ardaloedd lle mae'r angen mwyaf (y ffaith nad yw ymyriadau i fynd i'r afael â llygredd gwasgaredig yn cyd-fynd ag ardaloedd lle ceir llawer o drwytholchi gwrtaith). Gall y gwelliannau ar lefel ffermydd unigol o ran llygredd gwasgaredig ac olion traed carbon fod yn sylweddol fwy.

Mae'r set ganlynol o'r ganlyniadau yn awgrymu meysydd sy'n achosi pryder ac/neu sy'n galw am gamau pellach yng nghynllun Glastir:


Gwella pa mor broffidiol yw busnesau a chynaliadwyedd yn ehangach

  • Roedd 34% o'r rheini sy'n cymryd rhan yng nghynlluniau sylfaenol ac uwch Glastir yn cytuno bod cymryd rhan mewn cynllun amaeth-amgylcheddol wedi newid y modd yr oeddent yn rheoli'r fferm, o'i gymharu â 61% o'r rheini a oedd yn cymryd rhan yng nghynlluniau Tir Cynnal neu Tir Gofal. Nid oedd cymryd rhan yn y cynlluniau blaenorol wedi effeithio ar ymateb y rheini sy'n cymryd rhan yn Glastir. Dylid nodi y gall hyn fod yn adlewyrchu'r bwriad o sicrhau effaith sydd wedi para a pharhad rhwng y cynlluniau.
  • Nid oedd tystiolaeth ddibynadwy o newid yn nifer cyffredinol y bobl a oedd yn cael eu cyflogi ar ffermydd, ond roedd cynnydd fel arfer yn cyd-fynd ag arallgyfeirio ar ffermydd.

Gwasanaethau Ecosystem

Mae RhMGG wedi defnyddio'r model 'Land Utilization and Capability Indicator' (LUCI) (http://www.lucitools.org/) i fapio'r cyflenwad presennol o wasanaethau ecosystem ar lefel genedlaethol, gan nodi cyfleoedd i gyflenwi'r gwasanaethau hyn. Mae LUCI yn darparu mapiau ar raddfa genedlaethol sy'n dangos lle y gellir gwella gwasanaeth penodol (e.e. storio carbon neu goetir llydanddail), heb gael effaith andwyol ar wasanaethau eraill. Gan weithio mewn partneriaeth â chymunedau/ffermwyr lleol, gellir defnyddio'r model LUCI wedyn i dargedu'r gwaith rheoli ar lefel leol i gyn lleied â 5 metr (e.e. ble i dargedu pannu coed ar lannau afon). Galluogrwydd aml-raddfa model LUCI yw un o'r prif resymau y cafodd ei ddewis yn rhan o fframwaith modelu'r RhMGG. Mae'r gwasanaethau yr ymchwiliwyd iddynt gyda model LUCI fel a ganlyn:

Lliniaru newid yn yr hinsawdd

  • Lliniaru newid yn yr hinsawdd
  • Stoc carbon mewn pridd a llystyfiant
  • Newid yn y stoc carbon sy'n dibynnu ar y cyfuniad o ddefnydd tir / pridd
  • Statws carbon sy'n dangos lle ceir cyfleoedd i wella heb niweidio gwasanaethau eraill

Rheoleiddio ansawdd a llif dŵr

  • Tir sy'n arafu dŵr glaw ffo sy'n ffactor o ran lliniaru'r perygl o lifogydd
  • Lefelau presennol y nitrogen a'r ffosfforws mewn nentydd ac afonydd

Bioamrywiaeth

  • Ardal o gynefin â blaenoriaeth a choetir sydd eisoes yn bodoli
  • Tir sydd â'r cyfle gorau o wella cysylltedd ac ardal o goetir llydanddail
  • Dangosir ardaloedd o fawn dwfn, ardaloedd sydd mewn perygl o asideiddio ac ardaloedd o werth hanesyddol mawr hefyd gan fod y rhain yn annhebygol o fod yn addas ar gyfer plannu coed. Mae hyn yn lleihau'r ardal lle ceir cyfle i dyfu coetir o 53% o Gymru i 36%

Cynhyrchiant amaethu

  • Mae cynhyrchiant amaethu presennol yn seiliedig ar gnydau
  • Asesu a yw'r tir yn cael ei orddefnyddio neu ei danddefnyddio ar sail cyfuniad o gnydau, pridd ac amodau llethrau

Cyfaddawd a chyfleoedd yn ymwneud â gwasanaethau

Cyfaddawd a chyfleoedd yn ymwneud â gwasanaethau

  • Dengys LUCI y gall gwella un gwasanaeth waethygu un arall mewn 77% o Gymru (cyfaddawd - nodir mewn melyn). Mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd ystyried pob gwasanaeth cyn argymell newid h.y. a fydd yn effeithio ar wasanaeth pwysig arall?
  • Mae RhMGG wedi gwella cynnyrch LUCI drwy ychwanegu rhagor o faterion ato y mae angen eu hystyried megis:
    • Risg o asideiddio dyfroedd (sy'n bwysig ar gyfer ehangu coetir)
    • Ardaloedd o fawn dwfn (lansiwyd map mawndir newydd ar gyfer Cymru gyfan gan RhMGG yn 2015)
    • Ardaloedd o dirwedd hanesyddol pwysig
  • Rydym wedi ychwanegu'r rhain fel haenau data ychwanegol er mwyn hysbysu rheolwyr tir y dylid ystyried gwasanaethau eraill y tu hwnt i'r rhai a gwmpesir gan fodel LUCI ar hyn o bryd.